pN(5)009 - Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r offeryn hwn diwygio Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004, Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007, Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Dywed y Llywodraeth mai diben y diwygiadau hyn yn sicrhau bod y llyfr statud yn parhau’n weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE a mynd i'r afael â diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig a all godi pan fydd y DU yn ymadael â’r UE.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Argymhelliad y Pwyllgor ynghylch y weithdrefn briodol

Rydym wedi trafod y meini prawf a nodir yn Rheol Sefydlog 21.3C.  Mae'r Rheoliadau hyn yn codi materion o bwysigrwydd cyhoeddus, gwleidyddol neu gyfreithiol o dan baragraff (v) o'r Rheol Sefydlog honno, a hynny mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, fel y nodir ym mharagraff 4.9 y Memorandwm Esboniadol, maent yn cyflwyno newid i’r polisi gan na fydd  tystysgrifau cymhwysedd a roddir gan Aelod-wladwriaethau eraill i gigyddwyr yn cael eu cydnabod mwyach at ddibenion Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014.

Yn ail, fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, diben llawer o'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw defnyddio ‘Gweinidogion Cymru’ yn lle ‘Cynulliad Cenedlaethol’ yn y Rheoliadau.  Nid yw hyn yn deillio o ymadawiad y DU â'r UE, ond o ddarpariaethau trosiannol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae paragraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn cynnwys yn benodol y "pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu ddarpariaeth arbed (gan gynnwys darpariaeth sy'n ailddatgan unrhyw gyfraith yr UE a ddargedwir mewn ffordd gliriach neu fwy hygyrch). 

Drwy egluro mai swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ac nid y Cynulliad Cenedlaethol, fydd y rhain, bydd y Rheoliadau sy'n cael eu diwygio'n gliriach ac yn fwy hygyrch.  Fodd bynnag, rydym yn amau a yw’r newidiadau hyn yn cael eu  gwneud dim ond er mwyn mynd i’r afael â diffygion sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r UE,  fel y dywed y Gweinidog ym mharagraff 2 o Ran 2 o'r Memorandwm Esboniadol.

Naill ai

Er hyn, rydym yn argymell mai gweithdrefn y penderfyniad negyddol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

NEU

Am y rhesymau hyn, rydym yn argymell y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gadarnhau dull y Llywodraeth o weithredu o dan y weithdrefn gadarnhaol.

Ymateb y Llywodraeth

[Os nad oes unrhyw argymhelliad i ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol, rhowch y testun a ganlyn yma: Nid oes angen esboniad gan Lywodraeth Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.9B.]

[Os oes argymhelliad i newid y weithdrefn, rhowch y testun a ganlyn yma: Os nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro pam mae’n anghytuno ag argymhelliad y Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 27.9B.]

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

11 Ionawr 2019